Newid sefydliadol ac ymgynghori
Cynllunio a rheoli newidiadau i strwythurau, rolau, a phatrymau gwaith, gan gynnwys ymgynghori ffurfiol, adleoli, a diswyddo, yn unol â pholisi a chyfraith cyflogaeth.
Lefelau
- 1. Ymwybyddiaeth
Gallwch:
- egluro prif gamau proses newid sefydliadol
- cefnogi gweinyddu newid, fel llythyrau a chyfarfodydd ymgynghori
- 2. Gweithio
Gallwch:
- cefnogi rheolwyr i baratoi dogfennau ymgynghori a sesiynau briffio staff
- olrhain ymatebion a chamau gweithredu yn ystod ymgynghoriad
- cefnogi staff drwy brosesau adleoli a dethol
- 3. Ymarferydd
Gallwch:
- arwain newid sefydliadol ar gyfer cyfarwyddiaeth, o achos busnes i weithredu
- ymgynghori â staff a'u cynrychiolwyr ac ymateb i'w hadborth
- rheoli risgiau cyfreithiol a chydraddoldeb newid
- 4. Arbenigwr
Gallwch:
- arwain ailstrwythuro ar draws y sefydliad a throsglwyddo gwasanaethau
- dylunio dull y sefydliad o ymdrin â newid, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth
- cynghori'r bwrdd ar effaith a risg newid mawr i bobl
Sgiliau ESCO agosaf
Contains ESCO v1.2.1 data (https://esco.ec.europa.eu/). © European Union. Reuse authorised under Commission Decision 2011/833/EU.
Lefelau rôl sy'n disgwyl y sgil hon
| Lefel rôl | Rôl | Band | Lefel ddisgwyliedig |
|---|---|---|---|
| Partner busnes adnoddau dynol | Partner busnes adnoddau dynol | 7 | Ymarferydd |
| Uwch bartner busnes adnoddau dynol | Partner busnes adnoddau dynol | 8a | Arbenigwr |
| Pennaeth partneriaeth busnes adnoddau dynol | Partner busnes adnoddau dynol | 8b | Arbenigwr |
| Pennaeth adnoddau dynol | Pennaeth pobl | 8c | Arbenigwr |
| Cynghorwr adnoddau dynol | Swyddog adnoddau dynol | 5 | Gweithio |
| Uwch gynghorwr adnoddau dynol | Swyddog adnoddau dynol | 6 | Ymarferydd |