Cyfraith cyflogaeth
Cymhwyso cyfraith cyflogaeth i bolisïau pobl, contractau, rhaglenni newid, ac anghydfodau cyflogaeth y sefydliad.
Lefelau
- 1. Ymwybyddiaeth
Gallwch:
- egluro prif hawliau cyflogaeth staff
- adnabod materion cyflogaeth sydd angen cyngor cyfreithiol
- 2. Gweithio
Gallwch:
- helpu i baratoi dogfennau ar gyfer hawliadau a gwrandawiadau cyflogaeth
- adolygu contractau a pholisïau cyflogaeth yn erbyn templedi
- 3. Ymarferydd
Gallwch:
- cynghori ar faterion cyflogaeth, fel diswyddo, gwahaniaethu, trosglwyddo staff, ac ailstrwythuro
- rheoli hawliadau cyflogaeth a negodi cytundebau setlo
- cynghori ar ddefnyddio contractwyr a statws cyflogaeth arbenigwyr digidol
- 4. Arbenigwr
Gallwch:
- cynghori'r bwrdd ar newid mawr i'r gweithlu a'i risgiau cyfreithiol
- arwain anghydfodau cyflogaeth amlwg neu gymhleth
- llunio polisïau pobl i fodloni dyletswyddau cyfreithiol ac arfer da
Sgiliau ESCO agosaf
Contains ESCO v1.2.1 data (https://esco.ec.europa.eu/). © European Union. Reuse authorised under Commission Decision 2011/833/EU.
Lefelau rôl sy'n disgwyl y sgil hon
| Lefel rôl | Rôl | Band | Lefel ddisgwyliedig |
|---|---|---|---|
| Uwch gynghorwr cyfreithiol | Cynghorwr cyfreithiol | 8a | Gweithio |